Barddoniaeth yn Gymraeg
Alban Arthan
Dw i'n dysgu Cymraeg. Mi ddychmygais i'r meddwl dan y gerdd a sgrifennais y fersiwn cyntaf yn Saesneg. Gaeth fy ngherdd ei llathru gyda chymorth Anna Timby. Llyna fersiwn yn Ffrangeg.
Myfi yw’r nos,
myfi yw’r tywyllwch,
myfi yw’r fagddu,
collaf i fy hun mewn dim,
mewn gwacter, mewn oerni.
Ai dyma ddedwyddyd diwedd?
Marwolaeth yr enaid?
Nage, anobaith, dolurus, dros dro ydyw.
Colli hunaniaeth
gan dderbyn poen.
Ni phery hyn yn hir
canys ar ôl y tywyllwch daw’r wawr,
ar ôl anobaith, gobaith,
ar ôl gwayw, iachâd,
ar ôl oerfel, gwres,
ar ôl marwolaeth, bywyd.
Gobaith yr haul
yn codi……
© Angela Grant (Cenlli Goch) 2 Ebrill 2007
|