Trioedd Cerdd
Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain
(Abertawy, 1829)
by 'Y Diweddar Iolo Morganwg'
pp.43-47
LLYMMA DRIOEDD CERDD
A DYNNWYD I MAES O'R HEN LYFRAU BARDDONIAETH, AG YNDDYNT
Y MAE LLAWER O DDYSG, AG ATHRAWIAETH,
A BARN, AR GERDD A BARDDONIAETH.
___________
___________
1. Tri pheth a wnant Brydydd; Awen, Gwybodaeth, a Chynhyrfiad.
2. Tair Cynneddf Awen; hardd feddwl, priodol feddwl, ag amrywedd feddwl.
3. Tri Chyfeillion Awen; Nwyf, Callineb, a Digrifwch.
4. Tair effaith Awen; Haelioni, Gwarineb, a Charedigrwydd.
5. Tri anhepcor Awen; Deall, Ystyriaeth, ag Amynedd.
6. Tri pheth a gynnydd Awen; ei hiawn arfer, ei mynych arfer, a llwyddiant o'i harfer.
7. Tair diben Prydyddiaeth; cynnydd Daioni, cynnydd Deall, a chynnydd Diddanwch.
8. Tair Dyledswydd Bardd; iawn ganu, iawn ddysgu, ag iawn farnu.
9. Tri deunyddion Cerdd Dafod; Iaith, Crebwyll, a Chelfyddyd.
10. Tri anhepcor Iaith; purdeb, amledd ag hyweddiant.
11. Tair ffordd ydd amlhëir Iaith; amrafaelu geiriau cyfystyr, amryfodd gylmeiriau, ag amrywddull ymadrodd.
12. Tair cynneddf purdeb ar Iaith; prif ansodd, prif arfer, a phrif ddeunydd.
13. Tair caingc hyweddiant Iaith; a ddeellir, a hoffir, ag a gredir.
14. Tair Colofn Synwyr; eglurdeb, llawnder, a chyfiawnder.
15. Tair Colofn Eglurdeb; y gair a fo raid, y maint a fo raid, a'r ddull a fo raid.
16. Tair Colofn Llawnder; priodol feddwl, aml feddwl, ag amgen feddwl.
17. Tair Cynneddf cyfiawn Fyfyrdod; a ddichon fod, a ddylai fod, ag y sydd hardd ei fod.
18. Tair Cynrann Celfyddyd; anian, lles, a phriodoldeb.
19. Tri Chynnod Anian a Hanfod; lle nis gellir gwell; lle ni ellir amgen; a'r lle nid rhaid amgen.
20. Tri Chynnod Lles Celfyddyd; ei hoffi gann y Byd; ei rhinwedd yn gwellhau'r Byd; a'i pherffeithgamp yn cynnal ei hun.
21. Tri Nod priodoldeb Celfyddyd; iawn achos, iawn ymdrefn, ag iawn gyfuniad.
22. Tri amser Celfyddyd; pan fo iawn, pan fo hardd, a phan fo rhaid.
23. Tair hyweddiant Celfyddyd; ar a'i hoffo, ar a'i deallo, ag ar a'i dirper.
24. Tri harddwch Cerdd; mawl heb druth; nwyf heb anlladrwydd; a dychan heb serthyd.
25. Tri anhepcor Cerdd; Awenfryd, Celfyddbwyll, a Gwirionedd.
26. Tri theccad Cerdd; hardd Grebwyll, hardd Berthynas, a hardd Gywreingamp ar Fydryddu.
27. Tail sail Awen; rhod Duw, ymgais Dyn, a danwain Bywyd.
28. Tri rhyw Gerddor y sydd; Bardd, Ofydd [1], a Theuluwr [1].
29. Tripheth a ffrwythlona'r Awen; Diddanwch Meddwi, Coledd daionus Feddwl, a phorthi Cof.
30. Tripheth a ddephorthant Gof, ymgais a gwraidd Gwybodau, Cyfiawnder Gwybodau; a'r achos cofio Gwybodau, parth y rhaid wrthynt.
31. Tri pheth a dderchaif Awen; dysg, ymgais, a pharch.
32. Tri ardderchogrwydd Cerdd; godidog Iaith, godidog Ystyr, a godidog Grebwyll.
33. Tri rhaid Cerdd; godidog Amcan, godidog Synnwyr, a godidog Ddeunydd.
34. Tri harddwch Synwyr; eglurdeb, cywirdeb, a newydd-deb.
35. Tri amrywiaeth Cerdd; amrywiaeth Myfyrdod, amrywiaeth Iaith, ag amrywiaeth Colofn Cerdd.
36. Tri amrywiaeth Bann; amrywiaeth Cyhydedd, amrywiaeth Cynghanedd, ag amrywiaeth Accen.
37. Tri gwychder Cerdd; Hygaredd, Hyawdledd, ag Ehofnder.
38. Tri melusder Cerdd; hawsder deall, trynwyf Iaith, a mwythusber Fyfyrdod.
39. Tripheth blodeuog ar Gerdd; ystyrbell Iaith, goleuber Synwyr, a chywrain Gelfyddyd.
40. Tripheth a wnant flas ar Gerdd; amrafaelu Iaith, amrafaelu Myfyrdod, ag amrafael gainc ar fesur.
41. Tri chyttundeb a ddylai fod ar Gerdd; rhwng amrafaeliant a chyfundeb; rhwng rhagoriaith a chyffrediniaith; a rhwng rhyfeddol a gwir.
42. Tripheth a bair Cerdd yn dda; ei llwyr fyfyrio, ei mynych chwilo, ag ollol ymegnio.
43. Tri phriodoldeb Cerdd; ei maint, ei hamcan, a'i hachos.
44. Tair rhagoriaeth Canu; iawn fydryddu, iawn ddyfalu, ag iawn ymddwyn.
45. Tri rhagoriaeth mydr; cywreindeb, rhwyddineb, ag accen ber.
46. Tri chynnorthwy Iaith; Trefn, Nwyf, a chyffelybair.
47. Tair llafarwedd y sydd ar y Gymraeg; y Wenhwyseg, y Ddeheubartheg, a'r Wyndodeg. A chyfiawn ar Gerdd ymarfer a phob un o'r tair yng nghymmysg, blith draphlith, yn ol barn ag awdurdod y Prif Feirdd.
48. Tair prif rywogaeth y sydd ar Gerdd; Mawl, Galar, a Dychan.
49. Tri anhepcor Mydryddiaeth; Colofn, Cynghanedd, ag Awdl.
50. Tri iawnder Cerdd; iawn Grebwyll, iawn Drefn, ag iawn Fydr.
51. Tri iawnder y sydd ar Iaith; iawn eirioli, iawn ymddwyn, ag iawn lafar.
52. Tair swydd Iaith; adrodd, cynhyrfu, a dyfalu.
53. Tripheth a bair iawn ddyfalu; iawn ddewis ar air, iawn Ieithyddu, ag iawn gyffelybu.
54. Tripheth y sydd ar iawn ddewis; y Iaith oreu, y Drefn oreu, a'r gwrthddrych gorau.
55. Tair prif rywogaeth y sydd ar Fesur Cerdd; Cywydd, Englyn, ag Awdl.
56. Tair Cynghanedd y sydd o brif Ansodd; Cynghanedd lusc, Cynghanedd sain, a Chynghanedd groes.
57. Tair prif amcan Bardd herwydd pwyll a dyled; boddio Duw, lleshau Dyn, a pharchu serchogrwydd.
58. Tair Ansodd Barddoniaeth; Athrylith Awen, Barn wrth Ddysg, a gwynfyd meddwl.
59. Tair Colofn Gwynfyd; goddef o foddlonrwydd, gobaith y daw, a chred y bydd.
60. Tair Colofn Dysg; gweled llawer, dioddef llawer, ag ystyried llawer.
61. Tair Colofn Barn; eon amcan, mynych arfer, a mynych gamsynied.
62. Tri phrif orchest Bardd; celfyddyd gyrwydded ei deall, nis gellir cynnefinach o'r symledd; godidog Fyfyrdod nis gellir addasach o'r symledd, a rhagorol briodoldeb nis gellir natuiolach o'r symledd.
63. Tair Urddas Cerdd, gwired y peth y sonier am dano, godidocced y peth y sonier am dano, a chelfyddyd y dull y sonier am dano.
64. Tri hoffder Cerdd; ei godidog newyddiant, yr hawsder o'i deall, a'i chywrain Brydyddiaeth.
65. Tri chadernyd Awen; Athrylith, Cof, a Dysg.
66. Tri bonedd Awen; Nwyf, Pwyll, a Gwybodaeth.
67. Tri dyledogrwydd Cerddor; grymusder athrylith, cyflawnder dysg; a glendid ei gampau.
68. Tri Thrwyogaeth Cerdd; Trylen, Trynwyf, a Thrynaws.
69. Tri gloywineb Cerdd; gloyw Iaith, gloyw ystyr, a gloyw ddiben.
70. Tair Rhagorgamp ar Gerddor; cyflawn ddynodiant ar bob peth, cyflwyr fanegiant, a chyflwys Ganiadaeth.
71. Tri phriodoldeb Mesur; hyd y Bann, dull y Pennill, a phwys yr Accen.
72. Tair diben Cerdd; gwellhau'r Deall, gwellhau'r Galon, a diddanu'r meddwl a'r serch.
73. Tri Natturioldeb Cerdd; naturiol achos, natturiol Iaith, a natturiol drefn ar Ddychymmyg.
74. Tri hoywder Cerdd; hoyw Iaith, hoyw Fyfyrdod, a hoyw drefn ar y Ganiadaeth.
75. Tri chyflawnder Cerdd; cyflawnder Iaith, cyflawnder Dychymmyg, a chyflawnder Celfyddyd.
76. Tri rhyw Gerddor Tafod y sydd; Bardd, ag arno y mae canu yn gelfydd ar fawl a doethineb, ag Ofydd, ag arno y mae canu ar serch a diddanwch; a Theulüwr, ag arno y mae canu er lles a diddanwch gwaith y Bardd a'r Ofydd [2].
77. Tri chynnaliaeth Awen; llwyddiant, cydnabyddiaeth, a chanmoliaeth.
78. Tripheth a ddybryn llwyddiant; priodol ymgais, hywaith ymgais, ag anghyffredin ymgais.
79. Tripheth a ddybryn cydnabyddiaeth, Caredigrwydd, Celfyddgarwch, a Chynnefinder.
80. Tripheth a ddybryn ganmoliaeth; hygar ymddwyn, hyddysg gelfyddyd, a glan-gampau.
81. Tripheth a ddybrynant barch ag urddas; bonedd, glanfoes, a glanwisg; a da i Fardd wrthynt.
82. Tri Gweinidogion Awen; Cof, Nwyt, a Dysg.
83. Tri Nod Awen; anghyffredin ddeall, anghyffredin ymddwyn, ag anghyffredin ymgais.
84. Tair Ffynnon Gwybodaeth; Crebwyll, Ystyriaeth, a Dysgeidiaeth.
85. Tair Ffynnon Deall; Eonder, Nwyf, ag Ymgais. [3]
______________
A llyna Drioedd Cerdd a feddyliwyd, ag a drefnwyd gann yr Hen Feirdd a'r Awduron dysgedig gynt, pann oedd hylwydd y Gymraeg, a'i Barddoniaeth; a pheth bynnag elo'n eu gwrthwyneb, bai ydyw ar GERDD DAFOD.
Gweler Trioedd eraill ar ol diwedd Rheithiad a Dosparth y Mesurau.
_______________
1. Yr un peth, a'r un parth Gradd, yw Derwydd a Theuluwr, medd Meyryg Dafydd.
Return to the text
2. Amlwg yw nad oedd Awdur y Trioedd uchod yn deall yn iawn beth oedd gwir Ddefodau Beirdd Ynys Prydain. Gweler Trefn Gorsedd ar ddiwedd y Llyfr hwnn.
Return to the text
3. Trioedd Beirdd Tir Iarll y gelwir y rhai uchod, gan ANTONI PYWEL O LWYDARTH.
